Beta

Explore every episode of Paid Ymddiheuro

Dive into the complete episode list for Paid Ymddiheuro. Each episode is cataloged with detailed descriptions, making it easy to find and explore specific topics. Keep track of all episodes from your favorite podcast and never miss a moment of insightful content.

Rows per page:

1–13 of 13

Pub. DateTitleDuration
01 Sep 20231.4 Mae Gan Bawb Lais: Y Frwydr am Ddiagnosis Endometriosis 00:56:27

Bore da bawb!

Mae Elin a Celyn yn ôl heddiw i drafod endometriosis.

Mae 1 ym mhob 10 menyw yn y Deyrnas Unedig yn byw gydag endometriosis, felly pam yw hi’n cymryd, ar gyfartaledd, 7.5 mlynedd i gael diagnosis ohono?

Heddiw, cawn gwmni Heledd Roberts ac Elinor Morris i rannu eu straeon ysgytwol a’u profiadau pwerus . Mae’r ddwy stori yn dra wahanol, ond thema tebyg sy’n rhedeg drwy’r ddwy yw brwydo.

Dewch i gerdded ar hyd eu llwybr caled i dderbyn diagnosis ffurfiol, hyd yn oed wedi llawdriniaeth ar ôl llawdriniaeth. Dewch i barchu y frwydr maent wedi bod yn rhan ohono i geisio cael y gymuned feddygol i wrando.

Teimla’r ddwy yn hynod angerddol dros godi ymwybyddiaeth am endometriosis ac yn awyddus i chi gysylltu â nhw os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach.

Mwynhewch a chofiwch, Paid Ymddiheuro!

Cofiwch mai dim ond myfyrwyr meddygol yw Celyn ac Elin, felly  os oes unrhyw beth yn y bennod yma sy’n peri gofid i chi ynglŷn å’ch iechyd eich hunain, ewch i weld eich meddyg teulu.

Lincs:

https://www.endometriosis-uk.org/

https://www.who.int/news-room/fact-sheets/detail/endometriosis#:~:text=Endometriosis%20is%20a%20disease%20in,period%20and%20last%20until%20menopause.

https://www.nhs.uk/conditions/endometriosis/

https://endometriosisassn.org/endometriosis-resources/

Instagram Heledd: @heledd_

Instagram Elinor: @elinormorris_


18 Aug 20242.3 Y Bennod Nesaf: Beichiogrwydd a PCOS00:36:42

Heddiw, mae Elin a Celyn yn croesawu Mair yn nôl i’r podlediad.

Roedd Mair yn westai ar gyfres 1 o Paid Ymddiheuro, yn trafod ei phrofiadau hi gyda PCOS a’i thrafferthion gydag anffrwythlondeb. Rydym yn falch iawn o’i chael hi ar yr ail gyfres i rannu ei newyddion hapus gyda ni.

Dewch i drafod y stigma o amgylch anffrwythlondeb, y disgwyliadau cymdeithasol o amgylch beichiogrwydd a llawer mwy!


Mwynhewch, a chofiwch- Paid Ymddiheuro!


Cofiwch os oes unrhyw beth yn peri gofid i chi yn y rhaglen hon, ewch i weld eich meddyg teulu. Nid cyngor meddygol sydd yma.


Noddir y podlediad hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol


Lincs:

https://www.thefertilityinstitute.co.uk/

https://www.nhs.uk/conditions/polycystic-ovary-syndrome-pcos/

https://www.who.int/news-room/fact-sheets/detail/polycystic-ovary-syndrome

04 Aug 20231.1 Ma’ Periods yn rhoi Pŵer: Y Mislif a Dulliau Atal Cenhedlu00:45:44

Helo bawb! Croeso i'n pennod gyntaf.

Heddiw, caiff Elin a Celyn gwmni Anni Davies i drafod y mislif a dulliau atal cenhedlu. Dewch i ddysgu am y gylchred fislifol, synnu at yr ystod eang o ddulliau atal cenhedlu ar gael, ac efallai cael eich perswadio i brynu 'menstrual cup' !

Mwynhewch a chofiwch: Paid Ymddiheuro!

31 Jul 2023Paid Ymddiheuro: Rhagflas00:00:59

Sawl gwaith ydych chi ‘di deud “sori i fod yn boen” neu “dio’m yn bwysig”, “ma’n siwr mai fi sy’n bod yn ddramatig, pan fo'n dod at eich iechyd?

Yn ol ymchwil, mae menywod yn llai tebygol o ymweld a’r meddyg teulu ac yn derbyn llai o fonitro. Mae’n rhaid gofyn pam yw hyn ac mae’n rhaid iddo newid.

Yn y podlediad yma, da ni am fod yn trafod amrywiaeth o agweddau ar iechyd merched o ddulliau atal cenhedlu i iechyd meddwl, o’r mislif i’r menopos. 

Elin a Celyn yma. 'Da ni’n ddwy fyfyriwr meddygol ym mhrifysgol caerdydd sy’n angerddol dros leihau’r stigma o amgylch iechyd menywod ac eisiau gwella’r dealltwriaeth cyffredinol sydd gan bobl o gyflyrau mae menywod yn eu byw gyda nhw bob dydd. 

Dyma fan diogel i rannu profiadau, gofyn cwestiynau a dysgu gyda’n gilydd. A’r unig rheol sydd gennyn ni yw, paid ymddiheuro!


Diolch o galon i Talulah Thomas am y gerddoriaeth

IG: @talulah.t



01 Sep 20242.5 Brwydro'r Emosiynau: Mwy na PMS yw PMDD00:40:33

Mae PMDD yn bwnc mae Celyn ac Elin wedi bod yn awyddus iawn i’w drafod ar Paid Ymddiheuro.

Mae Premenstrual Dysphoric Disorder yn gyflwr a gafodd ei ychwanegu at y Diagnostic and Statistical Manual of Mental Disorders (DSM) yn 2013 ac yn cael ei ddiffinio yno fel cyflwr iselder sy’n achosi symptomau corfforol ac emosiynol difrifol rhwng ofwliad a’r mislif.

Heddiw mae’r merched yn cael cwmni Alys Golding i drafod ei brwydr hi i dderbyn diagnosis o PMDD. Bydd yr episod yma yn archwilio symptomau PMDD, cymharu'r rhain â PMS, parhau i ymladd am ddiagnosis a phwysigrwydd cael cyfuniad o ymyrraeth feddygol a thechnegau holistig fel triniaeth.

Diolchiadau:

Diolch i Becci Smart @disorderedbrain_

Housemate Celyn – Emily

Mwynhewch a chofiwch- Paid Ymddiheuro!

Cofiwch, os oes unrhyw beth yn peri gofid i chi yn y rhaglen hon, ewch i weld eich meddyg teulu. Nid cyngor meddygol sydd yma.

Noddir y podlediad yma gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Lincs:

https://iapmd.org/

https://www.mind.org.uk/information-support/types-of-mental-health-problems/premenstrual-dysphoric-disorder-pmdd/about-pmdd/#:~:text=Premenstrual%20dysphoric%20disorder%20(PMDD)%20is,phase%20of%20your%20menstrual%20cycle.

04 Aug 20242.1 Gafael ym mhob dim. Gafael ym mhob cyfle: Byw â Chancr y Fron00:43:34

Croeso nôl i gyfres 2 o Paid Ymddiheuro!

A oeddech yn ymwybodol fod tua 55,000 o fenywod a 400 o ddynion yn derbyn diagnosis o gancr y frôn yn flynyddol yn y Deyrnas Unedig?

Heddiw, caiff Elin a Celyn gwmni Anwen Edwards yn episod gyntaf yr ail gyfres. Dewch i ymuno â nhw i drafod taith Anwen o dderbyn diagnosis o gancr y fron, i rannu’r newyddion â’i theulu i'r driniaeth. Cawn glywed am bwysigrwydd cerddoriaeth drwy’r siwrnai, yn ogystal â sefydlu’r Gymuned Gefnogaeth Canser ar Facebook.

Cofiwch os oes unrhyw beth yn y rhaglen hon yn peri gofid i chi, ewch i drafod â’ch meddyg teulu. Nid cyngor meddygol sydd yma.

Noddir y podlediad hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Lincs:

https://www.cancerresearchuk.org/about-cancer/breast-cancer

https://www.nhs.uk/conditions/breast-cancer-in-women/

https://www.macmillan.org.uk/cancer-information-and-support/breast-cancerhttps://www.tenovuscancercare.org.uk/

Cymuned Cefnogaeth Canser ar Facebook: https://www.facebook.com/share/Ad5TzUoAedQkjpGE/

11 Aug 20242.2. 'Nabod dy Gorff dy Hun: Hwyl Fawr i'r Stigma am Secs ac STIs00:46:50

Helo bawb! Gobeithio eich bod wedi bod yn mwynhau cyfres 2 hyd yn hyn.

Heddiw mae Elin a Celyn yn nôl i drafod pob dim secs, STIs a llawer mwy! Am flynyddoedd mae’r rhain wedi bod yn dermau ac yn drafodaethau yn anffodus yn llawn stigma. Ar wahan i wersi addysg rhyw bach yn awkward yn yr ysgol, pa mor barod ac wedi’u grymuso yw pobl ifanc heddiw i ddelio a’r pethau yma?


I drafod hyn, cwmni Dr Ffraid bydd y merched yn ei gael yn yr episode yma. Mae Ffraid wedi graddio fel meddyg eleni a bellach yn gweithio yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae hi wedi dechrau cyfrif gwefannau cymdeithasol Secs Cymru i addysgu pobl am y materion hyn.

Dewch i chwalu’r stigma o gwmpas y pwnc yma ac efallai dysgu cân newydd; gwrandewch i gael gwybod mwy!

Mwynhewch, a chofiwch – Paid Ymddiheuro!

Cofiwch os oes unrhyw beth yn peri gofid i chi yn y rhaglen hon, ewch i weld eich meddyg teulu. Nid cyngor meddygol sydd yma.

Noddir y podlediad hon gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol


Lincs:

https://111.wales.nhs.uk/encyclopaedia/s/article/sexualhealthclinics/

https://www.nhs.uk/conditions/sexually-transmitted-infections-stis/

https://www.tht.org.uk/about-us/wales#:~:text=Terrence%20Higgins%20Trust%20Cymru%20works,good%20sexual%20health%20for%20all.


25 Aug 20231.3 Y Llwybr Troellog: Gwella'r Wybodaeth am PCOS00:36:51

Croeso nôl i Paid Ymddiheuro. ‘Da ni wedi cyrraedd pennod 3 felly hanner ffordd drwy’r gyfres gyntaf!

Heddiw, cawn gwmni Mair Garland i rannu ei stori hi o fyw gyda Polycystic Ovarian Syndrome (PCOS).

Yn ôl yr NHS, dyma gyflwr sy’n effeithio 1 ym mhob 10 menyw yn y Deyrnas Unedig, ond faint ydych chi wir yn ei wybod am PCOS?

Dewch i glywed stori Mair am y symptomau a’i sbardunodd i weld y meddyg teulu, ei brwydr i dderbyn diagnosis o PCOS a sut mae hi’n byw gyda’r cyflwr o ddydd i ddydd.

Cofiwch mai dim ond myfyrwyr meddygol yw Celyn ac Elin, felly os oes unrhyw beth yn y bennod yma sy’n peri gofid i chi ynglŷn â’ch iechyd eich hunain, ewch i weld eich meddyg teulu.


Lincs:

https://www.nhs.uk/conditions/polycystic-ovary-syndrome-pcos/

https://pcoscollective.com/

http://www.verity-pcos.org.uk/https://www.rcog.org.uk/for-the-public/browse-all-patient-information-leaflets/polycystic-ovary-syndrome-pcos-what-it-means-for-your-long-term-health-patient-information-leaflet/

15 Sep 20231.6 Bydd Yfory'n Gofalu am ei Hun: Gorbryderu am Iechyd00:50:01

Y Bennod Olaf…am rŵan.

Wel, wel, dyma ni wedi cyrraedd pennod olaf cyfres gyntaf Paid Ymddiheuro – am siwrne gyffrous hyd yn hyn! Diolch i’n gwesteion ni gyd am fod yn rhan o’n stori ni; ‘da chi gyd yn ANHYGOEL.

Dyma gyfle i chi ddod i adnabod tîm Paid Ymddiheuro, Elin a Celyn, ychydig yn well.

Ydych chi wedi sylweddoli sut mae eich teimladau yn newid drwy gydol y mis? A oes gennych chi ffyrdd o ymdopi â’r newidiadau corfforol ac emosiynol rydym i gyd yn profi drwy ein cylchred fislifol? Ydych chi weithiau’n teimlo bo’ chi ‘di cael llond bol?

Wel peidiwch â phoeni, mae Elin a Celyn yn deall yn llwyr. Dewch i ymuno yn eu trafodaeth nhw am eu profiadau gyda teimlo’n isel, teimlo’n hapus a phob dim yn y canol. Cawn glywed ychydig am brofiadau Celyn yn gwirfoddoli yn Sri Lanka a’i stori hi o fyw â gorbryder iechyd. Yn ogystal bydd Elin yn rhannu beth mae hi wedi’i ddysgu am y cysylltiad rhwng iechyd meddwl a’r gylchred fislifol a sut mae hyn yn rhoi pŵer a hyder iddi.

Dydy bywyd ddim yn hawdd. Dydy iechyd menywod ddim yn hawdd. Ond yr hyn sy’n gwneud pob dim yn well yw siarad, addysgu a chael gwared ar stigma. Gobeithio eich bod chi wedi dod yn fwy hyderus wrth wrando ar ein cyfres cyntaf ni ac wedi dechrau … PEIDIO YMDDIHEURO!

Diolch a llawer o gariad,

Elin a Celyn xx


Lincs

https://www.mind.org.uk/

https://meddwl.org/

08 Sep 20242.6 Dy Ddewis Di: Profiadau ar y Coil00:54:26

Wel, dyma ni wedi cyrraedd pennod olaf yr ail gyfres.

Fel cyfres 1, bydd hon yn episod gyda Elin a Celyn yn unig.

Dewch i wrando ar eu profiadau nhw wedi dewis y coil fel dull atal cenhedlu. Un ar y copper coil a'r llall ar y Mirena IUS- dewch i glywed y pros a'r cons a phob dim yn y canol.

Diolch i chi unwaith eto am eich holl gefnogaeth!

Mwynhewch a chofiwch- Paid Ymddiheuro!

Cofiwch os oes unrhyw beth yn peri gofid i chi yn y rhaglen hon, ewch i weld eich meddyg teulu. Nid cyngor meddygol sydd yma.

Noddir y podlediad hon y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.


Lincs

https://www.nhs.uk/contraception/methods-of-contraception/iud-coil/what-is-it/#:~:text=An%20IUD%20(intrauterine%20device)%2C,is%20not%20suitable%20for%20everyone.

https://www.nhs.uk/contraception/methods-of-contraception/ius-hormonal-coil/

https://www.letstalkaboutit.nhs.uk/contraception/fit-forget-contraception/coils-intrauterine-contraception/


25 Aug 20242.4 Cydnabod y Bwlch: Anafiadau ACL mewn Merched00:42:01

Cydnabod y Bwlch: Anafiadau ACL mewn Merched

Mae Elin a Celyn yn ffodus iawn i gael cwmni nid un ond dwy westai ar y podlediad heddiw: Dr Awen Iorwerth a Molly Cana.

Eleni, rydym wedi gweld nifer o straeon newyddion am anafiadau ACL yn y byd pêl-droed, yn enwedig mewn menywod. Oes rheswm penodol dros hyn? Oes risg uwch i ferched ynghlwm â’r anaf yma?

Bydd Molly ac Awen yn trafod hyn a llawer mwy, gan gynnwys amodau chwarae i ferched, yr esgidiau maent yn eu gwisgo a’r amser aros am driniaeth.

Mwynhewch a chofiwch- Paid Ymddiheuro!

Cofiwch, os oes unrhyw beth yn peri gofid i chi yn y rhaglen hon, ewch i weld eich meddyg teulu. Nid cyngor meddygol sydd yma.

Noddir y podlediad yma gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

03 Aug 20241.5 Rheoli'r Rhwystredigaeth: Mwy na Chur Pen yw Meigryn00:45:21

Croeso nôl i chi gyd.

‘Da ni bron ‘di cyrraedd diwedd y gyfres gyntaf o’r podlediad! Gobeithio eich bod chi gyd yn mwynhau hyd yn hyn.

Heddiw, dim ond Elin sy’n gallu bod efo chi, a bydd hi’n cael cwmni Heledd Haf Evans i drafod profiadau’r ddwy ohonynt gyda meigryn.

Dyma gyflwr sydd yn aml yn cael ei anwybyddu o fewn cymdeithas a dydy llawer o bobl ddim yn deall ei fod yn wahanol iawn i brofi cur pen!

Dysgwch am yr amrywiaeth eang o symptomau all fod yn gysylltiedig â meigryn, gwerthfawrogi sut yn union maent yn amharu ar fywyd o ddydd i ddydd, a gweld sut mae’r ddwy yn ymdopi gyda nhw.

Cyflwr cyffredin iawn yw hwn, ond eto un ble mae sawl cymhlethdod o fewn unigrywiaeth y symptomau i bawb.

Mwynhewch a chofiwch, Paid Ymddiheuro!

Cofiwch mai dim ond myfyrwyr meddygol yw Celyn ac Elin, felly os oes unrhyw beth yn y bennod sy’n peri gofid i chi ynglŷn â’ch iechyd eich hunain, ewch i weld y meddyg teulu.


Lincs:

https://www.nhs.uk/conditions/migraine/

https://migrainetrust.org/

https://www.bbc.co.uk/news/uk-wales-66065674

https://c3sc.org.uk/event-single/headache-and-migraine-support-group/



11 Aug 20231.2 Nid Diwedd y Daith: Trin a Thrafod y Menopos00:47:01

Helo! Croeso nôl bawb.

Heddiw caiff Elin a Celyn gwmni Emma Walford i drafod ei phrofiadau hi drwy'r perimenopos hyd yn hyn.

Cawn ddysgu fod cymaint mwy i'r menopos na 'hot flushes' yn unig, ac am bwysigrwydd siarad amdano yn agored gyda'ch teulu a'ch ffrinidau. Dewch i ddysgu am symptomau posibl, HRT a ble i droi am fwy o gymorth.

Felly, paid â bod ofn a phaid ymddiheuro!

Lincs defnyddiol:

https://www.balance-menopause.com

https://www.nhs.uk/conditions/menopause/

https://www.channel4.com/programmes/davina-mccall-sex-myths-and-the-menopause

https://thebms.org.uk/




Enhance your understanding of Paid Ymddiheuro with My Podcast Data

At My Podcast Data, we strive to provide in-depth, data-driven insights into the world of podcasts. Whether you're an avid listener, a podcast creator, or a researcher, the detailed statistics and analyses we offer can help you better understand the performance and trends of Paid Ymddiheuro. From episode frequency and shared links to RSS feed health, our goal is to empower you with the knowledge you need to stay informed and make the most of your podcasting experience. Explore more shows and discover the data that drives the podcast industry.
© My Podcast Data